Ysgol ECO

Cliciwch ar y faner i ddarganfod mwy

Menter ryngwladol yw’r rhaglen Eco-Sgolion sy’n annog disgyblion i gymryd rhan mewn materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy. Mae’n cynnig system hynod strwythurol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol o ysgolion.

Mae’r rhaglen yn adnodd dysgu ac mae’r meysydd pwnc yn cynnwys Ysbwriel, Lleihau Gwastraff, Cludiant, Byw’n Iach, Ynni, Dŵr, Tir yr Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Disgyblion sy’n cymryd y prif rannau mewn cymryd penderfyniadau a chyfranogi er mwyn lleihau effaith amgylcheddol eu hysgol. Fel hyn, mae Eco-Sgolion yn ymestyn y tu hwnt i’r dosbarth ac yn datblygu agweddau o ddinasyddiaeth gyfrifol, gartref ac yn y gymuned ehangach.

Nid yw Ysgol Gynradd Llandybie yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol.