C.R.A.Ff

Nid yw Ysgol Gynradd Llandybie yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol.

Grŵp o bobl ydy CRAFF Ysgol Llandybie sydd yn cynnwys rhieni, athrawon a chyfeillion yr ysgol sy’n helpu i drefnu codi arian a threfnu gweithgareddau cymdeithasol er mwyn lles yr ysgol. Gall pob aelod o’r gymuned gymryd rhan os ydynt eisiau, hyd yn oed os mai dim ond ychydig iawn o amser sydd ganddynt. Mae holl rieni a gofalwyr plant yr ysgol yn aelodau pan fyddant yn ymuno ein hysgol ac mae croeso i fynychu cyfarfodydd.

Nod y CRAFF yw trefnu gweithgareddau cymdeithasol a chodi arian er mwyn prynu pethau a fydd o ddefnydd i ddisgyblion. Ar ben hynny mae’r CRAFF yn bodoli i feithrin gwell cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol yn ogystal â bod yn ffordd ardderchog i ddod â staff, rhieni a ffrindiau at ei gilydd i gydweithio tuag at nod cyffredin.