Siarter Iaith

Mae’r  ‘Siarter Iaith’ yn fenter i annog y defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol yn yr ysgol.

Fel rhan o’r Siarter, byddwn yn datblygu a gweithio ar gynllun gweithredu i weithio tuag at wobrau efydd, arian ac aur. Bydd ein cynllun gweithredu yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol – disgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a’r gymuned ehangach.

O’n hymdrechion y llynedd, buom yn llwyddiannus yn ein cais am y wobr efydd – da iawn pawb