Presenoldeb

DEWCH I NI WEITHIO GYDA’N GILYDD I GYNNIG DYFODOL DISGLAIR I’N PLANT

Rydym ni yma yn Ysgol Gynradd Llandybie wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod pob plentyn sy’n mynychu’r ysgol yn cael yr addysg orau posib a’u bod yn cael cefnogaeth i gyflawni eu potensial llawn.


Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob plentyn fynychu’r ysgol o leiaf 95% o’r amser!
Mae colli ysgol yn tanseilio cyfle eich plentyn i gyrraedd ei lawn botensial. Mae’n ffaith fod presenoldeb cyson yn cynyddu cyfleodd plant i lwyddo yn yr ysgol. Os nad yw plant yn mynychu’r ysgol y tebygrwydd yw nad ydynt yn dysgu!
Mae’n amlwg for presenoldeb da yn sylfaen i ganlyniadau da. Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn gwbl hanfodol er mwyn i’r plant lwyddo yn y dyfodol.

Mae presenoldeb o bwys pan fo dyfodol eich plentyn yn fantol. Os ydych yn cael trafferth gyda phresenoldeb eich plentyn, yna dewch i drafod. Rydym yma i’ch cefnogi.
Gyda’n gilydd gallwn sicrhau’r gorau i’ch plant!