Mabolgampau 2018

Cynhaliwyd mabolgampau 2018 ar gae rygbi’, pentref eleni. Diolch i’r plant a’r rhieni am eu gwaith caled er mwyn gwneud y dydd yn llwyddiant.

Llongyfarchiadau i’r tîm melyn!

Ymweliad i Stadiwm Liberty

Yn ystod tymor yr Hydref, mae plant o flwyddyn 6 wedi bod yn gweithio fel rhan o brosiect Gweilch yn y gymuned. Buon nhw i Stadiwm y Liberty lle cawsant sgwrs am fwyta’n iach, gweithdy gwneud brechdanau gan Warburtons a thaith ryngweithiol o’r stadiwm.

Gwersyll Awyr Agored Pentywyn

Yn ystod mis Hydref, ymwelodd plant o flwyddyn 6 â’r gwersyll addysg awyr agored ym Mhentywyn. Yno, cawsant gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau dringo, absennol a chyfeirio ynghyd â llu o dasgau adeiladu tîm. Roedd y plant wedi mwynhau eu hamser yno yn llwyr.

Ymweliad i Sony Pencoed

Ym mis Hydref, ymwelodd plant o Flwyddyn 6 â’r ffatri Sony ym Mhencoed. Cawsant gyfle i weld sut roedd y dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei gynhyrchu. Cawsant hefyd daith o amgylch llawr y ffatri. Gwelon nhw sut roedd robotiaid yn helpu yn y broses weithgynhyrchu. Roedd y plant wedi cael cyfle i ddefnyddio sgrin werdd hefyd.

Fferm Ffoli

Ar ôl hanner tymor cyffrous o ddarganfod am wahanol anifeiliaid a’u hymddygiad, cafodd y plant amser i adlewyrchu ar eu dysgu yn ystod y trip llwyddiannus i Fferm Ffoli.